Mae enwau’r chwaraewyr fydd yn cynrychioli tîm rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd yn Japan wedi cael eu cyhoeddi.

Cafodd yr enwau eu darllen mewn fideo arbennig gan gynrychiolwyr o glybiau llawr gwlad pob un o’r chwaraewyr.

Mae 31 o chwaraewyr wedi’u henwi – 13 o olwyr ac 18 o flaenwyr – ond does dim lle i’r maswr Jarrod Evans, y ddau brop Samson Lee a Rob Evans, na’r canolwr Scott Williams, ynghyd â’r asgellwr Jonah Holmes, a’r chwaraewr ail reng Bradley Davies.

Roedd y maswr Gareth Anscombe a’r wythwr Taulupe Faletau eisoes wedi tynnu’n ôl oherwydd anafiadau.

Mae Corey Hill wedi’i gynnwys er ei fod e wedi torri’i goes.

Ymateb Warren Gatland

“Mae rygbi wrth galon Cymru, a dyna pam fod y gêm gymunedol mor bwysig i ni,” meddai Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru, yn y fideo ar dudalen Facebook Undeb Rygbi Cymru.

“Mae clybiau llawr gwlad y chwaraewyr wedi cael y fraint o gyhoeddi eu chwaraewyr i fod yn rhan o’r garfan hon ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan yn 2019.”

Cafodd yr enwau eu cyhoeddi yn nhrefn yr wyddor, gan ddechrau gyda’r blaenwyr ac yna’r olwyr.

“Y dewis yw rhan fwyaf anodd y swydd bob tro, ac mae hyn yn arbennig o wir adeg Cwpan y Byd,” meddai Warren Gatland yn dilyn y cyhoeddiad.

“Mae cwtogi’r garfan i 31 wedi bod yn eithriadol o anodd, yn enwedig wrth edrych ar y dyfnder rydyn ni wedi’i greu a faint o waith mae’r garfan ymarfer wedi’i wneud – i rai, 14 wythnos o ymarfer.

“Rydyn ni’n hapus iawn gyda’r 31 terfynol, rydyn ni’n teimlo bod cymysgedd gwych yn y garfan yn nhermau doniau, profiad a phroffil oedran, ac rydyn ni i gyd wedi cyffroi’n fawr ynghylch mynd am Japan a’r hyn sydd o’n blaenau.

“Mae’r chwaraewyr hyn wedi perfformio ac wedi llwyddo i Gymru ac yn haeddu’r cyfle i gynrychioli eu gwlad ym mhrif dwrnament y gamp.”

Blaenwyr: Jake Ball (Scarlets / Camberley), Adam Beard (Gweilch / Gellifedw), Rhys Carré (Saraseniaid / St. Joseph’s), James Davies (Scarlets / Hendy-gwyn ar Daf), Elliot Dee (Dreigiau / Trecelyn), Ryan Elias (Scarlets / Athletaidd Caerfyrddin) , Tomas Francis (Caerwysg / Malton & Norton), Corey Hill (Dreigiau / Pontypridd), Alun Wyn Jones (Gweilch / Bon-y-maen, capten), Wyn Jones (Scarlets / Llanymddyfri, Dillon Lewis (Gleision / Beddau), Ross Moriarty (Dreigiau / Treforys), Josh Navidi (Gleision / Athletaidd Pen-y-bont), Ken Owens (Scarlets / Athletaidd Caerfyrddin), Aaron Shingler (Scarlets / Yr Hendy), Nicky Smith (Gweilch / Waunarlwydd), Justin Tipuric (Gweilch / Trebannws), Aaron Wainwright (Dreigiau / Whiteheads)

Olwyr: Josh Adams (Gleision / Yr Hendy), Hallam Amos (Gleision / Trefynwy), Dan Biggar (Northampton / Gorseinon), Aled Davies (Gweilch / Hendy-gwyn ar Daf), Gareth Davies (Scarlets / Castellnewydd Emlyn), Jonathan Davies (Scarlets / Hendy-gwyn ar Daf), Leigh Halfpenny (Scarlets / Gorseinon), George North (Gweilch / Llangefni), Hadleigh Parkes (Scarlets / Hunterville), Rhys Patchell (Scarlets / Cwins Caerdydd), Owen Watkin (Gweilch / Bryncethin), Liam Willams (Saraseniaid / Waunarlwydd), Tomos Williams (Gleision / Treorci).