Mae cefnogwyr tîm rygbi Cymru wedi bod yn mynegi eu dryswch ar ôl i eitem newyddion rhwydwaith y BBC awgrymu mai “emyn” ac nid yr anthem genedlaethol yw ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

“Mae Cymru’n paratoi eu Cwpan y Byd hyd at y nodyn olaf,” meddai Patrick Gearey ar ddechrau ei adroddiad.

“Maen nhw wedi cael gwersi canu i’w helpu nhw gyda’u hemyn tîm.”

Ond wrth i’r newyddiadurwr gyflwyno’i adroddiad, roedd clip o’r tîm yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

Beirniadaeth

Fe wnaeth nifer o bobol droi at wefan gymdeithasol Twitter i gwyno:

A dyma ymateb @jonisioni ar ôl gweld y clip:

A dyma nifer o bobol eraill oedd wedi cael eu drysu.

Eglurhad

Wrth ymateb i rai o’r sylwadau, eglurodd Patrick Gearey mai dyma’r unig glip oedd ar gael i’w ddefnyddio gyda’i adroddiad.

Wrth ymateb ymhellach, fe ddatgelodd wedyn beth yw’r “emyn” mae’n sôn amdani yn ei adroddiad, sef ‘Calon Lân’, ond mae’n cyfaddef nad yw’n gyfarwydd iawn â hi.