Mae ymgyrchwyr Pacific Rugby ar ran Samoa, Tonga a Ffiji yn galw undebau rygbi mwyaf gwledydd Ewrop i gytuno ar gytundeb rhannu elw gyda’i wledydd fyddai’n trawsnewid datblygiad rygbi yno.

Mae Lles Chwaraewyr Rygbi’r Môr Tawel yn gobeithio trefnu cyfarfod gyda Rygbi’r Byd a phenaethiaid undebau rygbi Cymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Ffrainc i wthio’r cytundeb.

Prif Weithredwr Lles Chwaraewyr Rygbi’r Môr Tawel, Dan Leo, sydd wedi gwneud y cynnig i’r gwledydd hynny byd i gytuno i rannu 10% o elw pan maen nhw’n cynnal gemau Ynysoedd y Môr Tawel yng ngemau prawf mis Tachwedd yn Ewrop.

Dywed Dan Leo y byddai 10% o elw o gêm sydd wedi’i werthu allan yn Twickenham yn gallu talu am raglenni tîm cyntaf rygbi Samoa am gyfnod o dair blynedd.

“Dechrau rhywbeth positif”

“Rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw at broblemau yn rygbi Ynysoedd y Môr Tawel ers cryn amser a hefyd yn lobïo dros newid, ond mae hyn wir yn teimlo fel dechrau rhywbeth hynod gadarnhaol,” meddai Dan Leo.

“Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â’r undebau yn Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Cymru a Ffrainc, ac maen nhw i gyd wedi bod yn gadarnhaol ynglŷn â’r syniad hwn, ac am gwrdd â ni.

“Mi fyddwn ni’n trafod gyda Rygbi’r Byd hefyd, a gobeithiwn mai’r camau nesaf yw ffurfioli’r sgyrsiau hyn mewn cyfarfodydd eistedd i lawr.”

“Byddai cyfran elw fel hyn yn enfawr. Dywedwch, er enghraifft, y byddai Lloegr yn wneud elw o £10 miliwn ar gêm a werthwyd allan yn Twickenham. Wel, gallai £1m ariannu rhaglenni rygbi Samoa am dair blynedd.”

Roedd Dan Leo, oedd yn chwarae i London Wasps, ymhlith y grŵp o sêr Samoa wnaeth fygwth streicio cyn wynebu Lloegr yn Twickenham ym mis Tachwedd 2014.