Gareth Anscombe ddim yn teithio i Japan ar gyfer Cwpan y Byd
GAreth Anscombe
Llun: Undeb Rygbi Cymru
Mae chwaraewr rygbi Cymru, Gareth Anscombe, wedi cael anaf i’w ben-glin sy’n golygu na fydd y maswr yn teithio i Japan ar gyfer Cwpan y Byd.
Bu’n rhaid iddo ddod oddi ar y cae yn hanner gyntaf y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr ddoe (dydd Sul, Awst 11) pan gollodd Cymru 33-19.
Nid oes gwybodaeth eto pryd fydd Gareth Anscombe yn dychwelyd ac mae ei absenoldeb yn golygu mai Dan Biggar, Jarrod Evans neu Rhys Patchell fydd yn cymryd ei le.
Mae tîm Warren Gatland eisoes wedi colli’r wythwr Taulupe Faletau oherwydd anaf i bont yr ysgwydd yn barod, tra mae mewnwr Gleision Caerdydd, Tomos Williams, yn disgyn sgan ar ei ysgwydd.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.