Fe fydd parth di-alcohol yn cael ei gyflwyno ar gyfer yr holl gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality yn dilyn treialon llwyddiannus.

Cafodd degau o filoedd o gefnogwyr eu holi yn ystod gemau a digwyddiadau yn y stadiwm, ac mae tocynnau arbennig ar gael i’w prynu yn y parth newydd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a gemau’r hydref.

Bydd y parth yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ym mis Tachwedd wrth i Gymru herio’r Barbariaid, sef gêm gyntaf Wayne Pivac yn brif hyfforddwr.

Bydd Cymru’n herio’r Eidal, Ffrainc a’r Alban yn ystod y Chwe Gwlad.

Arbrawf yn y gorffennol

Fe gyflwynodd Undeb Rygbi Cymru barth di-alcohol ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Awstralia fis Tachwedd y llynedd, ac roedd yn weithredol wedyn ar gyfer holl gemau’r hydref, yn ogystal â gemau Dydd y Farn rhwng rhanbarthau Cymru, a gemau’r hydref y llynedd.

Fe fydd y parth sydd â 4,200 ar agor ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Lloegr ac Iwerddon fis nesaf, wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Wnaeth Undeb Rygbi Cymru ddim cynnal yr arbrawf yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.