Fe fydd Elliot Kear yn cael aros yn gapten ar dîm rygbi’r gynghrair Cymru am ddwy flynedd arall.

Daeth cadarnhad o benodiad canolwr 30 oed Broncos Llundain wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cwpan y Byd ymhen dwy flynedd.

Roedd e’n gapten ar y tîm ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2018, ac mae e’n un o 35 o chwaraewyr sydd wedi’u henwi yn y garfan baratoadol gan y prif hyfforddwr John Kear.

Hefyd yn y garfan mae Ben Flower, y prop sydd heb chwarae ar y llwyfan rhyngwladol ers 2013, a chwe wyneb newydd, sef Cobi Green, Caleb Aekins, Luis Roberts, Lewis Hall, Matthew Morgan a Liam Rice-Wilson.

Bydd Cymru hefyd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd naw bob ochr yn Sydney ym mis Hydref, a Phencampwriaethau Ewrop 2020.

Y garfan: R Evans, D Grant, C Green (Bradford), J Ralph (Easts Tigers), C Bulter, Connor Davies, Curtis Davies, D Fleming, S Jones (Halifax), J Emmitt (Leigh), M Fozard, E Kear, R Williams (Broncos Llundain), L White (Mackay Cutters), R Massam (Gogledd Cymru), C Aekins (Penrith), G Dudson, L Roberts (Salford), R Grace, M Knowles (St Helens), G Bennion, M Butt, R Lloyd, B Morris (Swinton), B Evans (Toulouse), C Davies, E Jenkins, O Olds (heb glybiau), L Hall (Warrington), J Olds (West Brisbane Panthers), M Evans, M Morgan, S Parry, L Rice-Wilson (Gorllewin Cymru), B Flower (Wigan)