Mae George North yn dweud bod gan dîm rygbi Cymru eu cyfle “gorau erioed” i ennill Cwpan y Byd eleni.

Mae’r Cymry’n ail ar restr detholion y byd, a dim ond Seland Newydd sydd uwch eu pennau ar drothwy’r gystadleuaeth yn Japan.

Cipiodd Cymru’r Gamp Lawn gyda’u pedwaredd fuddugoliaeth ar ddeg yn olynol ym mis Mawrth, a dydyn nhw ddim wedi colli ers mis Chwefror y llynedd.

“Rydan ni yn ein sefyllfa orau erioed,” meddai George North yn ystod digwyddiad i ddatgelu cit Cwpan y Byd.

“Yn hanesyddol, rydan ni bob amser ar ei hôl hi wrth fynd i mewn.

“Rydan ni’n aml wedi ei chael yn anodd gyda’r Chwe Gwlad cyn hynny, ac mae mwy i’w gwneud fel arfer.

“Ond mae’r garfan wedi bod mewn lle gwych dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n gyfuniad nid yn unig o chwaraewyr ifainc a hen, ond chwaraewyr ifainc, profiadol all wthio’r chwaraewyr hŷn.

“Mae’n nifer sydd wedi setlo ac mae pawb yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.”