Bydd y maswr Sam Davies yn chwarae rygbi tros y Dreigiau’r tymor nesaf, wedi iddo arwyddo cytundeb i chwarae iddyn nhw tros y ddwy flynedd nesaf.

Fe dreuliodd y chwaraewr o Abertawe ddegawd gyda’r Gweilch gan chwarae 150 o gemau tros y rhanbarth.

Fe chwaraeodd am y tro cyntaf yn 2012, mewn gêm gwpan yn erbyn y Dreigiau.

Aeth yn ei flaen i gychwyn 96 o gemau tros y Gweilch, a chamu i’r cae fel eilydd 54 o weithiau.

Fe sgoriodd 836 o bwyntiau tros y Gweilwch – y nifer fwyaf ond un yn hanes y rhanbarth.

Ond gyda’r Gweilch yn arwyddo Gareth Anscombe a Luke Price ar gyfer safle’r maswr, mae cyfnod Sam Davies gyda’r rhanbarth wedi dod i ben.