Mae rhanbarth rygbi’r Gweilch wedi cyhoeddi bod nifer o chwaraewyr ac un hyfforddwr yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Cafodd yr enwau eu cyhoeddi yn ystod cinio blynyddol y rhanbarth neithiwr (nos Wener, Mai 10).

Y rhai sy’n gadael yw Scott Baldwin, Tom Habberfield, Alex Jeffreies, Rob McCusker, Giorgi Nemsadze, James Ratti a Joe Thomas.

Hefyd yn gadael mae Brad Davis, hyfforddwr amddiffyn y rhanbarth, a hynny ar ôl tair blynedd.

Yn ystod y cinio, derbyniodd Paul James, y prop rhyngwladol, grys arbennig i nodi ei 232 o gemau rhwng 2003 a 2017.

‘Diolch’

“Ar ran pawb yn y Gweilch, hoffwn ddiolch i bob un o’r unigolion hyn am eu gwasanaeth a’u gwaith caled gyda’r rhanbarth,” meddai Andrew Millward, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gweilch.

“Fel y gwyddom oll, mae’r adeg hon yn y flwyddyn yn gweld cadarnhad o ymadawiad chwaraewyr a staff ar draws y byd rygbi a dydyn ni ddim yn wahanol.

“Mae’r rheiny sy’n gadael i gyd wedi cyfrannu mewn modd positif i’n hamgylchfyd yn ystod eu hamser gyda ni, ar y cae ac oddi arno, a does dim amheuaeth y byddan nhw’n parhau i wneud hynny wrth i ni baratoi am gêm ail gyfle yng Nghwpan y Pencampwyr yn erbyn y Scarlets yn ddiweddarach y mis hwn.

“Dylem gydnabod dau chwaraewr yn arbennig, sef Scott Baldwin a Tom Habberfield, sydd wedi bod gyda ni ers eu harddegau, a’r ddau yn cynrychioli’r rhanbarth â rhagoriaeth dros 100 o weithiau.

“Dymunwn yn dda i bawb sydd yn gadael ar gyfer y dyfodol, lle bynnag y byddan nhw’n mynd.”