Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd yr hyfforddwr amddiffyn, Shaun Edwards, yn gadael ar ôl Cwpan y Byd yn Japan eleni.

Er iddo gael cynnig gan dîm rygbi’r gynghrair Wigan i fod yn brif hyfforddwr mae Shaun Edwards wedi gwrthod, ac mae wedi dweud ’na’ i gytundeb newydd gyda Chymru hefyd.

Mae si hefyd bod tîm rygbi cenedlaethol Ffrainc ar ôl yr hyfforddwr 52 oed.

Shaun Edwards yw’r trydydd hyfforddwr i gyhoeddi ei fod yn gadael Cymru ar ôl Cwpan y Byd gyda’r prif hyfforddwr, Warren Gatland, eisoes wedi dweud fod ei amser ar ben yno a hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde, yn cyhoeddi ei fod yn ymuno a Leinster.

Yn ei amser gyda Chymru, mae wedi ennill pedwar pencampwriaeth Chwe Gwlad – gan gynnwys tair Camp Lawn, ers cyrraedd yn 2018.

Mae ei gytundeb yn dod i ben ar ôl Cwpan y Byd Siapan 2019, sy’n gorffen ar Dachwedd 2.

“Penderfyniad anodd”

“Ar ôl mwy na 10 mlynedd gyda Chymru mae hon wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i’w wneud ond ni fyddaf yn adnewyddu fy nghontract,” meddai Shaun Edwards.

“Hoffwn ddiolch i Warren (prif hyfforddwr Cymru, Gatland) ac Undeb Rygbi Cymru am y cyfle rwyf wedi’i gael yn gweithio gyda’r tîm cenedlaethol.

“Rydym wedi ennill pedair Chwe Gwlad yn ystod fy nghyfnod gyda Chymru, ond rwy’n mawr obeithio ac yn credu bod y dyddiau gorau eto i ddod ac rwy’n canolbwyntio’n llwyr ar weld yr hyn y gallwn ei gyflawni yn Japan.”

Yn ol prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, “mae Shaun wedi bod yn rhan bwysig o dîm Cymru a sefydlwyd dros yr 11 mlynedd diwethaf mewn amser hynod werthfawr i rygbi Cymru.”