Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, “wedi siomi” bod Robin McBryde yn gadael er mwyn ymuno a Leinster ar ôl Cwpan y Byd yn Japan eleni.

Yn ôl Warren Gatland, mae’n gyfle euraidd i’w gyd-hyfforddwr ond fe fydd Cymru yn colli 13 blynedd o brofiad i’w gelynion yn Iwerddon.

Mae Warren Gatland ei hun eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn gadael Cymru ar ôl Cwpan y Byd, sy’n gorffen ar Dachwedd 2.

Fe gafodd Robin McBryde ei apwyntio yn hyfforddwr i dîm Cymru yn 2006 gan Gareth Jenkins. Ef oedd prif hyfforddwr Cymru ar eu taith i’r Unol Daleithiau a Chanada yn 2009, Japan yn 2013 ac i wledydd y Môr Tawel yn 2017.

“Parch mawr”

“Mae’n wych iddo, mae’n gyfle gwych – y cyfan alla’ i ddweud o fy safbwynt i yw ei fod yn siom,” meddai Warren Gatland.

“Mae gan Iwerddon nawr fynediad at yr holl wybodaeth y mae e wedi’i ennyn dros y deuddeg neu dair blynedd ar ddeg diwetha’. Gwybodaeth ynglŷn â chwaraewyr, strwythur, cynlluniau gemau a sut ydyn ni’n gwneud pethau.

“Ond o ran safbwynt personol, mae’n gyfle grêt. Mae e wedi bod yn was da i Gymru fel chwaraewr ac fel hyfforddwr ac mae gen i barch mawr tuag ato.”