Mae Warren Gatland yn mynnu nad yw wedi cael y cynnig i olynu Eddie Jones yn Brif Hyfforddwr Lloegr.

Mae disgwyl i’r gŵr o Seland Newydd adael tîm Cymru ar ôl pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd eleni, a hynny wedi 12 mlynedd o fod yn Brif Hyfforddwr y crysau cochion.

Wrth gyhoeddi pwy fydd yn y garfan ar gyfer y bencampwriaeth yn yr hydref, cyfaddefodd Warren Gatland fod rhywrai wedi cysylltu ag ef ynglŷn â’i ddyfodol, ond nad oedd tîm Lloegr yn un o’r rheiny.

“Dw i wedi cael sawl cynnig o wahanol ffynonellau,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru. “Mae’n fater o wneud y penderfyniad iawn ar yr amser iawn, felly mae’n rhaid pwyso a mesur.

“I fod yn onest, dw i’n canolbwyntio ar y chwech i’r saith mis nesaf, ar Gymru ac ar Gwpan y Byd.

“Dydw i ddim wedi siarad â Lloegr o gwbwl. Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi dweud yn eithaf clir beth maen nhw’n ei wneud o ran cadw unrhyw apwyntiadau neu drafodaethau tan ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd.”

Doniau hen a newydd

Ymhlith aelodau’r garfan a gafodd ei chyhoeddi gan Warren Gatland heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30) mae dau chwaraewr newydd, sef yr asgellwr Owen Lane a’r prop Rhys Carre – ill dau o’r Gleision.

Mae’r garfan gyfan yn cynnwys 46 o ddynion – 19 cefnwr a 23 blaenwr – gan gynnwys y 36 a arweiniodd Cymru i fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni.

Hefyd wedi ei gynnwys mae’r wythwr, Taulupe Faletau, sydd wedi bod yn dioddef o anaf yn ystod y rhan fwyaf o’r tymor hwn, yn ogystal â’r cefnwyr, Aaron Shingler a James Davies.

Y ddau sydd ddim wedi eu cynnwys yw Ellis Jenkins a Thomas Young wrth iddyn nhw wella o anafiadau, ond fe allan nhw gael eu hychwanegu yn hwyrach yn yr haf.

Blaenwyr (23)

Leon Brown (Dreigiau), Rhys Carre (Gleision), Rob Evans (Scarlets), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Wyn Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Nicky Smith (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Bradley Davies (Gweich), Cory Hill (Dreigiau), Alun Wyn Jones (Gweilch), James Davies (Scarlets), Taulupe Faletau (Caerfaddon), Ross Moriarty (Dregiau), Josh Navidi (Gleision), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Aaron Wainwright (Dreigiau).

Cefnwyr (19)

Aled Davies (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Tomas Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Dan Biggar (Northampton Saints), Jarrod Evans (Gleision), Rhys Patchell (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Scott Williams (Gweilch), Josh Adams (Caerwrangon), Hallam Amos (Dreigiau), Steff Evans (Scarlets), Leigh Halfpenny (Scarlets), Owen Lane (Gleision), George North (Gweilch), Jonah Holmes (Caerlŷr), Liam Williams (Saracens).