Fe fydd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, yn ymuno a chlwb rygbi Leinster ar ôl Cwpan y Byd 2019, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi.

Mae John Fogarty yn gadael y clwb ac yn ymuno ag Iwerddon sy’n agor y drws i gyn-fachwr Cymru, sydd a 37 cap I gymryd ei le fel hyfforddwr ysgarmes.

Cafodd Robin McBryde ei apwyntio fel hyfforddwr i dîm Cymru yn 2006 gan Gareth Jenkins.

Ef oedd prif hyfforddwr Cymru ar eu taith i’r Unol Daleithiau a Chanada yn 2009, Japan yn 2013 ac i wledydd y Môr Tawel yn 2017.

“Anrhydedd”

“Dw i’n falch iawn o’m hamser gyda Chymru, ac mae wedi bod yn anrhydedd i hyfforddi fy ngwlad,” meddai Robin McBryde mewn datganiad.

“Dydw i erioed wedi ei gymryd yn ganiataol ac mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i fod wedi bod yn rhan o’r tîm hyfforddi o dan Warren Gatland.

“Dw i wrth fy modd fy mod wedi sicrhau fy nyfodol gyda Leinster ar ôl Cwpan y Byd, ac mae’n caniatáu i mi ganolbwyntio fy holl egni ar y dasg sydd ar y gweill â Chymru.”

Fe fydd Cwpan y Byd Siapan yn dechrau ar Fedi 20 ac yn gorffen ar Dachwedd 2.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, a hyfforddwr y cefnwyr, Rob Howley, eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn gadael ar ôl Cwpan y Byd.

Hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, fydd yn cymryd yr awenau bryd hynny.