Gleision 23–26 Gweilch

Sicrhaodd y Gweilch gêm ail gyfle Ewropeaidd gyda buddugolaieth yn erbyn y Gleision yn y stadiwn cenedlaethol yng Nghaerdydd nos sadwrn.

Trechodd y Gweilch eu cydwladwyr yn ail gêm “Dydd y Farn” i orffen yn bedwerydd yn adran A y Guinness Pro14, safle sydd yn sicrhau ail gyfle iddynt am y safle olaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

Hanner Cyntaf

Cic gosb Sam Davies i’r Gweilch a oedd pwyntiau cyntaf y gêm ond y Gleision a gafodd gais cyntaf y noson. Mae Gareth Asncombe yn ymuno â’r Gweilch ar ddiwedd y tymor felly roedd hi’n eironig braidd mai cais unigol gwych gan y cefnwr a roddodd ei dîm presennol ar y blaen wedi chwe munud.

Trosodd Anscombe ei gais ei hun cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn mantais ei dîm i saith pwynt wedi chwarter awr.

Chwaraewr a wnaeth yn union yr un symudiad ar hyd yr M4 y tymor diwethaf a darodd yn ôl i’r Gweilch wedi hanner awr, y canolwr, Cory Allen, yn croesi i roi ei dîm ar y blaen.

Ymestynnodd trosiad Davies fantais y Gweilch i dri pwhynt cyn iddo yntau ac Anscombe gyfnewid cic gosb yr un cyn yr egwyl, 13-16 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Roedd mantais y Gweilch yn ddeg pwynt yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi i Davies drosi cais Nicky Smith, y prop hyrddio drosodd am ail gais ei dîm.

Tarodd y Gleision yn ôl bron yn syth wrth i Josh Turbull elwa o gamddealltwriaeth amddiffynnol Aled Davies a George North i sgorio ail gais y “tîm cartref”.

Tri phwynt a oedd ynddi wedi trosiad Anscombe ond gyda’r Gweilch yn dechrau’r gêm bwynt o’u blaen yn y tabl, nid oedd gêm gyfartal o unrhyw werth i’r Gleision.

Syndod felly a oedd gweld Anscombe yn mynd am y pyst i unioni’r sgôr gyda chic gosb ddeuddeg munud yn unig o’r diwedd.

Dichon mai aros am gyfle arall i’w hennill hi a oedd bwriad y Gleision ond y Gweilch yn hytrach a wnaeth hynny gyda thri phwynt o droed Sam Davies yn y munud olaf.

Y tabl

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod y Gweilch yn gorffen y tymor arferol yn y pedwerydd safle yn nhabl adran A, bedwar pwynt uwch ben y Gleision, sydd yn gorffen yn bumed.

Cwpan Her Ewrop fydd yn aros y Gleision y tymor nesaf felly ond bydd gan y Gweilch ail gyfle i gyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop mewn gêm yn erbyn y Scarlets, a orffenodd yn bedwerydd yn adran B.

.

Gleision

Ceisiau: Gareth Anscombe 6’, Josh Turnbull 48’

Trosiadau: Gareth Anscombe 7’, 49’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 14’, 37’, 68’

.

Gweilch

Ceisiau: Cory Allen 30’, Smith 45’

Trosiadau: Sam Davies 31’, 45’

Ciciau Cosb: Sam Davies 4’, 23’, 40’, 80’

Cerdyn Melyn: Dan Evans 70’