Mae disgwyl i Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, arwain y Llewod ar daith i Dde Affrica yn 2021.

Bydd yn rhoi’r gorau i hyfforddi Cymru ar ôl Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Mae’r Sunday Telegraph yn adrodd y gallai ei benodiad gael ei gadarnhau o fewn mis.

Fe arweiniodd e Gymru i’r Gamp Lawn eleni.

Roedd e wrth y llyw ar gyfer taith y Llewod i Awstralia yn 2013, lle’r oedd y Llewod yn fuddugol, a’r gyfres gyfartal yn erbyn Seland Newydd yn 2017.

Mae’r hyfforddwr o Seland Newydd hefyd yn cael ei gysylltu â swydd prif hyfforddwr Lloegr.

Mae’r Llewod wedi gwrthod gwneud sylw, gan ddweud bod y broses o benodi’r hyfforddwr yn un “gyfrinachol”.