Fe fydd Gareth Anscomb yn gadael Gleision Caerdydd ar ddiwedd y tymor er mwyn ymuno â’r gelyn – Gweilch Abertawe.

Roedd y Gleision wedi cynnig cytundeb newydd i’r ciciwr 27 oed a ddaeth i Gaerdydd o Seland Newydd ar gytundeb ar y cyd (NDC) gyda Undeb Rygbi Cymru yn 2014.

Yn dilyn hynny, roedd ei hyfforddwr John Mulvihill wedi rhoi tan ddechrau yr wythnos yma iddo benderfynu ar ei ddyfodol,

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyflwyno system bandio i dalu chwaraewyr newydd i gymryd lle cytundebau ar y cyd (NDC) gyda’r cyflogau a chategorïau newydd sydd wedi eu gosod gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol newydd (PRB).

Fe apeliodd Gareth Anscombe yn erbyn y system bandio newydd, ond mi fethodd hynny.

Gwthiodd Gareth Anscombe ei ffordd i fod yn ddewis cyntaf fel rhif 10 i Gymru yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2019.

Mae’r Gleision a’r Gweilch yn brwydro ei gilydd yn ffeinal y Pro14 ar Judgement Day yn Stadiwm y Principality ar Ebrill 27.

Fe fydd yr enillydd yn cael lle mewn gêm ail-gyfle yng Nghwpan y Pencampwyr.