Mae adroddiadau y gallai Shaun Edwards barhau’n hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi Cymru, er gwaetha’r sïon ei fod am adael ar ôl Cwpan y Byd.

Mae lle i gredu bod Wayne Pivac, a fydd yn olynu Warren Gatland yn yr hydref, yn barod i benodi dau hyfforddwr amddiffyn, gyda Byron Hayward yn symud gyda fe o’r Scarlets i fod yn gyfrifol am ddadansoddi’r gwrthwynebwyr.

Bydd Stephen Jones yn ymuno â’r tîm hyfforddi i fod yn gyfrifol am yr ymosod.

Bydd Neil Jenkins yn cynorthwy’r olwyr hefyd, tra bydd Jonathan Humphreys yn gyfrifol am y blaenwyr.

Trafodaethau gyda Shaun Edwards

Mae trafodaethau’n parhau i sicrhau dyfodol Shaun Edwards, sydd wedi bod yn aelod allweddol o dîm hyfforddi Warren Gatland.

Fe gyhoeddodd ei fwriad gwreiddiol i symud yn ôl at fyd rygbi’r gynghrair at Wigan, ond mae’n ymddangos ei fod e wedi gwneud tro pedol.

Roedd e hefyd yn cael ei gysylltu â sawl swydd arall ym myd rygbi’r undeb.