Connacht 29–22 Gleision

Mae gobeithion y Gleision o orffen yn drydydd yn adran A y Guinness Pro14 ar ben wedi iddynt golli yn erbyn Connacht ar Faes Chwarae Galway brynhawn Sadwrn.

Bydd yn rhaid iddynt drechu’r Gweilch ar y Sadwrn olaf yn awr i sicrhau gêm ail gyfle i gyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

Daeth y cais cyntaf i Connacht wedi deuddeg munud, Coalin Blade yn sgorio wedi bylchiad Paul Boyle.

Roedd y Gleision yn gyfartal erbyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i gais unigol gwych Owen Lane.

Y Gwyddelod a oedd ar y blaen wrth droi serch hynny wedi i sgarmes symudol effeithiol hyrddio’r ail reng, Gavin Thornbury, drosodd.

Ymestynnodd Connacht eu mantais yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda deg pwynt gan Jack Carty. Llwyddodd y maswr gyda chic gosb i ddechrau cyn trosi ei gais ei hun yn dilyn gwrthymosodiad gwych o’u dau ar hugain eu hunain gan ei dîm.

Rhoddodd hynny’r tîm cartref 17 pwynt ar y blaen ond wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to gyda chic gosb Gareth Anscombe yn cau’r bwlch i ddwy sgôr ychydig funudau’n ddiweddarach.

Cafwyd penderfyniad dadleuol gan y dyfanrwr fideo i atal cais i Jason Harries yn y gornel ar yr awr ond fe wnaeth Josh Turnbull groesi i roi gobaith i’r Cymry ddeg munud o’r diwedd.

Ymatebodd Connacht serch hynny gyda’u pederydd cais hwy, Matt Healy’n plymio drosodd yn y gornel am gais tebyg iawn i’r un a gafodd ei wrthod i Harries.

Harries a gafodd y gair olaf wrth i’w gais sicrhau pwynt bonws i’r Gleision ym munud olaf y gêm ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hwnnw.

Go brin y gwnaiff y pwynt bonws hwnnw lawer o wahaniaeth ar ddiwedd y tymor, mae’r Gleision bwynt y tu ôl i’r Gweilch yn nhabl adran A cyn eu wynebu ymhen pythefnos. Bydd angen buddugoliaeth felly ar y tîm o’r brifddinas i neidio dros eu cydwladwyr i’r pedwerydd safle yng ngêm olaf y tymor arferol.

.

Connacht

Ceisiau: Coalin Blade 12’, Gavin Thornbury 27’, Jack Carty 50’, Matt Healy 73’

Trosiadau: Jack Carty 12’, 28’ 51’

Cic Gosb: Jack Carty 47’

.

Gleision

Ceisiau: Owen Lane 20’, Josh Turbull 71’, Jason Harries 80’

Trosiadau: Gareth Anscombe 21’, 72’

Cic Gosb: Gareth Anscombe 53’