Southern Kings 7–43 Gweilch

Rhoddwyd hwb i obeithion y Gweilch o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf gyda buddugoliaeth bwynt bonws oddi cartref yn erbyn y Southern Kings yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Sgoriodd Dan Evans hatric wrth i’r ymwelwyr o Gymru groesi am saith cais mewn buddugoliaeth swmpus yn Stadiwm Bae Nelson Mandela, Port Elizabeth.

Daeth cais cyntaf y Gweilch wedi deuddeg munud, Evans yn croesi o dan y pyst wedi ffugiad gwych.

Croesodd y cefnwr am ei ail ef ac ail ei dîm bum munud yn ddiweddarach, yn cael ei ryddhau gan Keelan Giles wedi iddo yntau guro’i ddyn ar yr asgell chwith.

Daeth trydydd y Cymry yn syth o’r ail ddechrau, Giles unwaith eto’n gwrthymosod o’i hanner ei hun cyn rhyddhau Aled Davies i roi’r sgôr ar blât i Cory Allen.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel chwarter awr cyn yr egwyl diolch i Hanno Dirkson, yr asgellwr yn sgorio o dan y pyst wedi i Adam Beard redeg ongl effeithiol i dorri’r llinell fantais yng nghanol cae.

Ac os a oedd unrhyw amheuaeth am y canlyniad cyn hynny, roedd buddugoliaeth y Gweilch yn berffaith ddiogel cyn yr egwyl wedi i sgarmes symudol gref hyrddio Bradley Davies dros y gwyngalch.

Cafwyd dechrau blerach i’r ail hanner a bu rhaid aros chwarter awr am chweched cais yr ymwelwyr, Evans yn cwblhau ei hatric wedi dwylo taclus yr eilydd faswr, Sam Davies.

Daeth pwyntiau cyntaf y Kings toc wedi’r awr wrth i’r bachwr, Mike Williemse, dirio wedi sgarmes symudol.

Roedd y gêm wedi colli pob siâp erbyn hynny ond cafwyd un fflach o gyffro gan Giles funud o’r diwedd i greu’r cais olaf, ail Bradley Davies a seithfed y Gweilch, 7-43 y sgôr terfynol.

Y Tabl

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch dros y Gleision i’r pedwerydd safle yn adran A y Pro14. Mae’r tri uchaf yn sicr o’u lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf ond bydd yn rhaid i’r tîm sydd yn gorffen yn bedwerydd chwarae gêm ail gyfle yn erbyn tîm o adran B.

Connacht sydd yn drydydd ar hyn o bryd ond gall hynny newid wrth iddynt groesawu’r Gleision i Galway brynhawn Sadwrn. Bydd Connacht wedyn yn herio Munster ar y Sadwrn olaf tra’r bydd y Gleision a’r Gweilch yn wynebu ei gilydd.

.

Southern Kings

Cais: Mike Williemse 62’

Trosiad: Masixole Banda 63’

Cerdyn Melyn: Stephan Greeff 53’

.

Gweilch

Ceisiau: Dan Evans 13’, 18’, 57’, Cory Allen 20’, Hanno Dirkson 26’, Bradley Davies 30’, 79’

Trosiadau: Luke Price 15’, 19’, 26’, 32’