Scarlets 12–20 Caeredin

Colli fu hanes y Scarlets wrth iddynt herio Caeredin yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn, a hynny er gwaethaf y ffaith iddynt fod ddeuddeg pwynt ar y blaen ar hanner amser.

Sgoriodd Jaco van der Walt bymtheg pwynt wrth i’r ymwelwyr o’r Alban daro nôl i ennill ar Barc y Scarlets.

Deg munud a oedd ar y cloc pan agorodd Gareth Davies y sgorio i’r Scarlets, y mewnwr yn dechrau a gorffen symudiad taclus.

Symudiad da arall a arweiniodd at ail gais y tîm cartref chwarter awr cyn yr egwyl, Bois y Sosban yn ymosod o’u 22 eu hunain a Jonathan Davies yn croesi’r gwyngalch yn y pen arall.

Y Scarlets yn rheoli’r hanner cyntaf felly ac ar y blaen o ddeuddeg pwynt ar yr egwyl.

Roedd hi’n stori wahanol yn yr ail hanner. Roedd van der Walt eisoes wedi trosi cic gosb cyn iddo drosi cais Matthe Scott i gau’r bwlch i ddau bwynt ar yr awr.

Rhyng-gipiodd maswr yr ymwelyr bas Leigh Halfpenny ychydig funudau’n ddiweddarach i groesi am ail gais ei dîm.

Llwyddodd y gŵr o Dde Affrica gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd, 12-20 y sgôr terfynol a dim hyd yn oed pwynt bonws i’r Scarlets.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Wayne Pivac yn bumed yn adran B y Pro 14 gyda thair gêm ar ôl.

.

Scarlets

Ceisiau: Gareth Davies 11’, Davies 25’

Trosiad: Leigh Halfpenny 12’

Cerdyn Melyn: Ken Owens 38’

.

Caeredin

Ceisiau: Matthew Scott 61’, Jaco van der Walt 65’

Trosiadau: Jaco van der Walt 61’, 66’

Ciciau Cosb: Jaco van der Walt 45’, 69’