Mae Tomos Williams, mewnwr tîm rygbi Cymru, wedi llofnodi cytundeb tymor hir er mwyn aros gyda’r Gleision.

Roedd y chwaraewr 24 oed wedi serennu yn ystod buddugoliaeth Cymru dros Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gan sgorio cais.

Ond fe gafodd ei anafu yn ystod y gêm, a cholli gweddill y gystadleuaeth.

Mae Josh Navidi, Jarrod Evans, Kristian Dacey a Willis Halaholo hefyd wedi llofnodi cytundebau newydd, tra bod Josh Adams a Hallam Amos hefyd yn ymuno â’r rhanbarth.

“Mae Tomos yn chwaraewr lleol, cyffrous arall sydd wedi dod trwy ein llwybrau ni, a fe yw’r mewnwr ymosodol gorau yng Nghymru,” meddai John Mulvihill, prif hyfforddwr y Gleision.

“Mae e’n gystadleuol dros ben ac yn sbarc ymosodol ac amddiffynnol i ni. Mae e wedi creu eiliadau mawr mewn gemau mawr.

“Mae e eisiau bod y prif fewnwr yng Nghymru, a nid dim ond yn y Gleision, ac mae’r awch a’r elfen gystadleuol yn rhinweddau gwych.