Fe fydd tîm rygbi Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn 2020 yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd.

Daw’r cyhoeddiad ar y diwrnod y daeth cadarnhad na fyddai newid i strwythur y rhanbarthau y tymor nesaf.

Bydd yr ornest gyntaf – gêm gyntaf Wayne Pivac yn brif hyfforddwr – yn cael ei chynnal ar Chwefror 1, ac fe fydd yn gyfle i ymestyn rhediad yr Eidal i 23 o golledion o’r bron.

Bydd Cymru’n cloi eu hymgyrch ar Fawrth 14 yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.

Byddan nhw’n herio Iwerddon yn Nulyn ar Chwefror 8/9, Ffrainc yng Nghaerdydd ar Chwefror 22/23 a Lloegr yn Twickenham ar Fawrth 7/8.

Y rhanbarthau

Y rhanbarthau presennol fydd yn parhau i fwydo tîm Cymru y tymor nesaf, ar ôl i gynlluniau honedig i uno’r Gweilch a’r Scarlets gael eu rhoi o’r neilltu.

Fydd yna ddim rhanbarth newydd yn y gogledd am y tro ychwaith.

“Gobeithio y bydd modd trosi’r emosiwn a gafwyd wrth ymchwilio i opsiynau i uno yn gefnogaeth i’r timau proffesiynol yng Nghymru, gan helpu i greu dyfodol cynaladwy i’r gêm yng Nghymru,” meddai’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol mewn datganiad.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd modd i’r rhanbarthau gau pen y mwdwl ar drafodaethau tros gytundebau eu chwaraewyr rhyngwladol.