Mae chwaraewyr rygbi Cymru’n “barod i redeg drwy waliau” dros eu gwlad, yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.

Daw ei sylwadau ar ôl i Gymru guro Iwerddon o 25-7 i gipio’r Gamp Lawn.

Maen nhw hefyd wedi ymestyn eu rhediad di-guro i 14 o gemau, gan roi trydedd Camp Lawn i’w prif hyfforddwr a fydd yn gadael ar ôl Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Ciciodd Gareth Anscombe 20 o bwyntiau – chwe chic gosb a throsiad – ac fe groesodd y canolwr Hadleigh Parkes am unig gais Cymru.

Mae’r canlyniad yn codi Cymru i’r ail safle ar restr ddetholion y byd.

“Byddai’r criw hwn o chwaraewyr yn rhedeg trwy wal frics i chi,” meddai Warren Gatland.

“Dw i wedi cyffroi ar gyfer Cwpan y Byd oherwydd rydych chi’n cael deufis neu dri mis gyda’ch gilydd, ac yn gallu paratoi fel clwb.

“Rydych chi’n mynd i ddyfnder o ran datblygu sgiliau a mireinio eich gêm.

“O’r safbwynt hwnnw, byddwn ni’n siapio’n wych.”

‘Creu hanes’

Wrth ganmol perfformiad y tîm, dywed Warren Gatland fod y fuddugoliaeth yn “llwyr haeddiannol”.

“Mae creu hanes ac ennill y Gamp Lawn yn bethau na all neb fyth eu tynnu oddi arnoch chi,” meddai wedyn.

“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n rhagorol yn y ffordd y gwnaethon nhw reoli’r gêm.

“Fe wnaethon ni, yn gorfforol, ddileu yr hyn oedd yn gryfderau gan Iwerddon gynt o ran y sgrym, y lein a rhedeg oddi ar y mewnwr.

“Roedd ein trosiant, o’i gymharu â nhw, wedi ein gadael ni i reoli, yn enwedig yn ystod yr hanner cyntaf.”

‘Gweld eisiau Cymru’

Ac yntau’n dod i ddiwedd ei gyfnod wrth y llyw, mae Warren Gatland yn cyfaddef y bydd yn gweld eisiau Cymru.

“Bydda i’n gweld eisiau awyrgylch stadiwm lawn, dod i mewn ar y bws, y cefnogwyr a’r dathliadau wedyn,” meddai.

Wrth ganmol Warren Gatland, dywed Alun Wyn Jones, y capten ei fod e wedi bod yn “rhagorol”.

“Nid yn unig felly gyda Chymuru, ond y crys coch arall [y Llewod] hefyd.

“Mae gyda fe ychydig o’i gytundeb yn weddill, felly fydd e ddim yn gallu tynnu ei droed oddi ar y sbardun eto.

“Ond mae ei record yn adrodd cyfrolau – tair Camp Lawn.”