Mae tîm rygbi Cymru ar y blaen o 16-0 ar yr egwyl yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd.

Daeth cais yn y munudau agoriadol i’r canolwr Hadleigh Parkes, ac mae Gareth Anscombe wedi cicio 11 o bwyntiau – trosiad a thair cic gosb.

Collodd Cymru George North yn yr hanner cyntaf, ar ôl iddo anafu ei law.

Mae Cymru 40 munud i ffwrdd o ennill y Gamp Lawn.