Mae tîm dan 20 Cymru yn wynebu “sialens fawr” heno wrth iddyn nhw herio Iwerddon, sydd â’u llygaid ar gipio’r Goron Driphlyg ar derfyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd y gêm ym Mae Colwyn yn cychwyn am 7.05 heno ac mae hi’n fyw ar S4C.

Mae’r crysau cochion ar hyn o bryd yn bedwerydd yn y tabl, gyda Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon o’u blaenau.

Maen nhw hefyd yn gobeithio adennill eu hyder yn erbyn y Gwyddelod, yn dilyn y siom o golli o 20 pwynt i 27 yn erbyn yr Alban yr wythnos ddiwethaf.

“Hwnna oedd y gêm fwyaf siomedig iddyn nhw, achos fe chwaraeon nhw mor dda [yn y fuddugoliaeth] yn erbyn Lloegr yr wythnos ynghynt,” meddai Steff Hughes, cyn-gapten tîm dan 20 Cymru, wrth golwg360.

“Fe gethon nhw lot o feddiant a chollon nhw lot o’r bêl yn rhy rwydd, ond dw i’n siŵr eu bod nhw wedi rhoi lot o’r pethe yna yn iawn a’u bod nhw’n barod am gêm fawr heno.”

Saith newid i’r tîm

Mae’r hyfforddwr Gareth Williams wedi gwneud saith newid i dîm Cymru ar drothwy’r gêm heno, yn bennaf ymysg y cefnwyr.

Bydd Sam Costelow yn cael ei gyfle cyntaf i gychwyn gêm, a  hynny yn safle’r maswr, tra bo Cai Evans wedi cyfnewid ei grys rhif 10 am un rhif 15, ac Ioan Davies wedi cael ei symud o’r cefn i’r asgell.

Bydd Tiaan Thomas-Wheeler yn cychwyn fel canolwr allanol, tra bo Max Llewellyn wedi cael ei symud i’r fainc, a Tomi Lewis yn cymryd lle Alex Morgan yn yr asgell.

O ran y blaenwyr wedyn, bydd Rhys Davies ac Ed Scragg yn dychwelyd i’r rheng flaen a’r ail reng.

“Mae [Gareth Williams] wedi dod mewn â bois profiadol ac mae’r tîm yn edrych yn gryf,” meddai Steff Hughes a fydd yn dadansoddi’r chwarae ar S4C.

“Ond mae’n rhaid jyst gobeithio eu bod nhw’n gallu cael y cydlyniant yna i chwarae’r gêm maen nhw moyn.”

Y tîm                 

Cai Evans; Tomi Lewis, Tiaan Thomas-Wheeler, Aneurin Owen, Ioan Davies; Sam Costelow, Dafydd Buckland; Iestyn Rees, Jac Morgan, Ellis Thomas, Teddy Williams, Ed Scragg, Ben Warren, Dewi Lake, Rhys Davies.

Ar y fainc

Will Griffiths, Tom Devine, Nick English, Jac Price, Ioan Rhys Davies, Dan Babos, Max Llewellyn, Ryan Conbeer.