Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi na fydd unrhyw newid i garfan Cymru cyn y gêm yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos.

Bydd gêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn (Mawrth 16), ac mae siawns dda gan y crysau cochion i ennill y Goron Driphlyg os ydyn nhw’n llwyddo i faeddu Iwerddon.

Alun Wyn Jones fydd capten y tîm sy’n ddigyfnewid ers dydd Sadwrn diwethaf (Mawrth9), pan lwyddodd Cymru i sicrhau buddugoliaeth o 18 pwynt i 11 yn erbyn yr Alban.    

Mae’r tîm yn cynnwys Adam Beard yn yr ail reng a Rob Evans, Ken Owens a Tomas Francis yn y rheng flaen.

Bydd Gareth Davies a Gareth Anscombe yn fenwr a maswr, tra bo Hadleigh Parkes a Jonathan Davies yn ganolwyr.

Yn ffurfio gweddill y cefnwyr wedyn fydd Josh Adams, George North a Liam Williams.

Y tîm

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, KenOwens, Tomas Francis, Adam Beard, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Ar y fainc

Elliot Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.