Mae capten tîm rygbi Cymru ymhlith llu o chwaraewyr sydd wedi lleisio pryderon am gorff llywodraethu eu gêm.

World Rugby sy’n trefnu prif ddigwyddiadau’r gamp, ac ar dydd Iau (Mawrth 14) mi fyddan nhw’n cynnal cyfarfod mawr yn Nulyn.

Yno, byddan nhw’n trafod eu cynlluniau ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd – cystadleuaeth byd eang newydd sydd fod i gael ei lansio yn 2022.

Mae’r cynlluniau yn debygol o gael eu gwrthwynebu yn ddiweddarach, a bellach mae Alun Wyn Jones wedi cyfrannu at y ddadl.

“O fudd i’r gêm”

“Rydyn ni eisie sicrhau na fydd y sefyllfa bresennol yn parhau,” meddai, “ac rydy ni eisie sicrhau bod [World Rugby] yn mynd i’r afael â phryderon chwaraewyr, a’r diffyg ymgynghori â nhw.

“Dylai World Rugby a’r undebau gwrdd â’r chwaraewyr fel ein bod yn medru cytuno ar atebion dechau. Byddai hynny o fudd i’n gêm.

“Ddylwn ni beidio â thanbrisio llais y chwaraewyr.”