Wrth i filoedd o Gymry baratoi at yr ornest rygbi yn erbyn yr Alban yn Murrayfield y prynhawn yma, mae’r rheolwr, Warren Gatland, yn dweud fod ffocws y chwaraewyr ar y gêm.

Yn dilyn wythnos o ansicrwydd oddi ar y cae i nifer o chwaraewyr Cymru, mae’r garfan am geisio cadw eu gobeithion o ennill y Gamp Lawn yn fyw.

Dywedodd bachwr Cymru, Ken Owens mai dyma’r “sefyllfa anoddaf i mi ac eraill ei hwynebu yn ystod fy ngyrfa” wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal trafodaethau i ad-drefnu’r rhanbarthau.

Yn dilyn y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr yn eu gêm ddiwethaf, mae Gatland wedi gwneud un newid i dîm Cymru fydd yn dechrau’r gêm yn erbyn Yr Alban.

Bydd y clo, Adam Beard yn dechrau’r gêm yn lle Cory Hill, sydd allan o weddill y gystadleuaeth yn dilyn anaf i’w bigwrn.

Yr unig newid arall i’r garfan yw bod Jake Ball yn cymryd lle Beard ar y fainc.

Dim lle i Laidlaw yn nhîm Yr Alban

Yn y cyfamser, does dim lle i’r capten Greig Laidlaw yn nhîm Yr Alban, gydag Ali Price yn dechrau’n safle’r mewnwr yn ei le.

Mae hynny’n un o bedwar newid sydd i dîm Gregor Townsend ar gyfer y gêm yng Nghaeredin.

Mae 13 o’r chwaraewyr yng ngharfan Cymru yn chwarae naill ai i’r Gweilch neu’r Scarlets.

“Heb os, mae hi wedi bod yn her i’r chwaraewyr yn y dyddiau diwethaf,” meddai Warren Gatland.

“dydi’r amseru ddim yn berffaith o’n safbwynt ni, ond dyna sy’n digwydd yn y byd chwaraeon proffesiynol.

“I fod yn deg i’r chwaraewyr, yn dilyn eu cyfarfod, mae eu ffocws nhw ar y gêm,” meddai wedyn.

Fe fyddai buddugoliaeth heddiw yn golygu y bydd Cymru gam yn nes at sicrhau’r Gamp Lawn, gydag un gêm yn weddill yn erbyn Iwerddon ar benwythnos olaf y bencampwriaeth.

Yn y cyfamser, ennillodd merched Cymru oddi cartref yng Nglasgow nos Wener gan guro merched Yr Alban 15-17. Collodd tîm Dan Ugain dynion Cymru o 27-20 yng Nghaeredin.