Er gwaetha’r holl drafod ynghylch dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru’r wythnos hon, mae un o sêr y tîm cenedlaethol yn dweud bod y chwaraewyr yn canolbwyntio “ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae”.

Ddechrau’r wythnos bu sïon bod y Gweilch a’r Scarlets am uno, ac ansicrwydd ynghylch pa chwaraewyr fyddai yn cael chwarae i’r clwb newydd.

Ar y funud mae’r sôn am leihau nifer y rhanbarthau wedi tawelu, a sawl un yn beirniadu’r bosus rygbi am drafod dyfodol y Scarlets a’r Gweilch ar ganol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn enwedig felly gan bod y Cymry ar frig y tabl ac yn wynebu trip i’r Alban.

Ond mae un o flaenwyr disglair Cymru yn dweud bod y chwaraewyr yn canolbwyntio ar yr ornest ar gae Murrayfield yng Nghaeredin yfory am 2.30 y p’nawn.

“Mae’r ffocws ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae a sicrhau ein bod yn paratoi ar gyfer yr Alban,” meddai Josh Navidi.

Wedi tair buddugoliaeth o’r bron yn y Chwe Gwlad eleni – gan gynnwys sgwrfa i’r Saeson yng Nghaerdydd bythefnos ynghynt – mae gan y Cymry’r cyfle i sicrhau Camp Lawn, os wnawn nhw guro’r Alban a’r Werddon.