Dreigiau 15–28 Ulster

Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt groesawu Ulster i Rodney Parade yn y Guinness Pro14 brynhawn Sul.

Croesodd yr ymwelwyr o Iwerddon am bedwar cais mewn buddugoliaeth bwynt bonws.

Er i gic gosb Josh Lewis roi’r tîm cartref ar y blaen, tarodd Ulster yn ôl cyn yr egwyl gyda chais Jordi Murphy a throsiad John Cooney, 3-7 y sgôr wrth droi.

Aeth y Gwyddelod â’r gêm o afael y Dreigiau gyda dau gais yn neg munud cyntaf yr ail hanner, Marty Moore yn hyrddio drosodd i ddechrau cyn i John Conney sgorio a throsi ei gais ei hun.

Aeth Connacht i lawr i dri dyn ar ddeg am gyfnod tuag at ddiwedd y gêm ac fe roddodd dau gais hwyr wedd mwy parchus ar y sgôr o safbwynt y Dreigiau, un cais cosb wedi i Louis Ludik daro’r bêl ymlaen yn fwriadol ac un i Taine Basham.

Ond fe groesodd tri dyn ar ddeg y Gwyddelod hefyd wrth i Alan O’Connor sicrhau’r pwynt bonws i’r ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau ar waelod adran B y Pro14.

.

Dreigiau

Ceisiau: Cais Cosb 70’, Taine Basham 77’

Ciciau Cosb: Josh Lewis 17’

.

Ulster

Ceisiau: Jordi Murphy 25’, Marty Moore 45’, John Cooney 49’, Alan O’Connor 74’

Trosiadau: John Cooney 26’, 46’, 50’, Billy Burns 75’

Cardiau Melyn: Darren Cave 37’, Robert Lyttle 68’, Louis Ludik 70’