Scarlets 10–6 Munster

Y Scarlets a aeth â hi mewn gêm agos wrth i Munster ymweld â Llanelli yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Ioan Nicholas a sgoriodd unig gais y gêm wrth i’r tîm cartref drechu’r ymwelwyr o Iwerddon ar Barc y Scarlets.

Deg munud a oedd ar y cloc pan groesodd Nicholas yn dilyn dadlwythiad gwych Johnny McNicholl, 7-3 y sgôr wedi trosiad Leigh Halfpenny.

Roedd Munster o fewn pwynt ar yr egwyl serch hynny diolch i gic olaf yr hanner, ail gic gosb Bill Johnston.

Un gic gosb a oedd unig bwyntiau’r ail hanner ac yn ffodus i’r Scarlets, o droed Halfpenny y daeth honno, 10-6 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi Bois y Sosban i’r trydydd safle yn adran B y Pro14.

.

Scarlets

Cais: Ioan Nicholas 11’

Trosiad: Leigh Halfpenny 13’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 49’

.

Munster

Ciciau Cosb: Bill Johnston 5’, 40’