Connacht 46–5 Gweilch

Rhoddodd Connacht grasfa i’r Gweilch wrth i’r Cymry ymweld â Maes Chwarae Galway yn y Guinness Pro 14 brynhawn Sadwrn. Sgoriodd y tîm cartref chwe chais mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan sgoriodd Thomas Farrell gais cyntaf y tîm cartref wedi bylchiad gwreiddiol ei gyd ganolwr, Peter Robb.

Llwyddodd Kyle Goodwin gyda’r trosiad cyn ychwanegu dwy gic gosb i ymestyn mantais y Gwyddelod i dri phwynt ar ddeg wedi chwarter awr.

Ymatebodd y Gweilch gyda chais i’r mewnwr, Matthew Aubrey, ond hwnnw a oedd yr unig lygedyn o obaith a gafodd y Cymry trwy gydol y gêm.

Sgoriodd Connacht dri chais arall i sicrhau’r pwynt bonws cyn yr egwyl, un yr un i Matt Healy a Kieran Marmion, a chais cosb i orffen yr hanner.

Treuliodd y Gweilch hanner yr ail hanner i lawr i bedwar dyn ar ddeg oherwydd cardiau melyn i Jordan Lay a Bradley Davies a doedd fawr o syndod gweld Connacht yn ymestyn eu mantais.

Croesodd y mewnwr, Marimon, am ei ail ef cyn i Tom McCartney ychwanegu’r chweched ddeg munud o’r diwedd, 46-5 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn bumed yn adran A y Pro14 wrth iddynt golli cyfle i godi dros y Gleision cyn iddynt hwy chwarae’n hwyrach nos Sadwrn.

.

Connacht

Ceisiau: Thomas Farrell 2’, Matt Healy 25’, Kieran Marmion 30’, 51’, Cais Cosb 40’, Tom McCartney 70’

Trosiadau: Kyle Godwin 2’, 26’, 31’, 53’

Ciciau Cosb: Kyle Godwin 13’, 16’

.

Gweilch

Cais: Matthew Aubrey 16’

Cardiau Melyn: Jordan Lay 47’, Bradley Davies 69’