Mae Warren Gatland wedi dweud bod angen i Gymru “adeiladu” ar eu buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Lloegr dros y penwythnos.

Mae angen i Gymru sicrhau dwy fuddugoliaeth arall os am gipio’r Goron Driphlyg ac ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Y ddwy gêm sy’n weddill yn ystod yr wythnosau nesaf yw’r un yn erbyn yr Alban ar Fawrth 9 ac Iwerddon ar Fawrth 16.

Mae Cymru bellach wedi ennill 12 gêm yn olynol, sy’n record newydd ar gyfer y tîm cenedlaethol.

‘Rhaid peidio â bodloni’

“Yr her sydd ger ein bron ni yn nawr yw peidio â bodloni gyda maeddu Lloegr a lle rydym ni ar hyn o bryd, ond i adeiladu ymhellach ac i greu rhywbeth arbennig,” meddai prif hyfforddwr Cymru yn dilyn y fuddugoliaeth o 21 pwynt i 13 ddydd Sadwrn (Chwefror 23).

“Fe fydd yn arbennig os gallwn ni ennill y bencampwriaeth yn ystod fy mlwyddyn olaf gyda Chymru…

“Y peth gorau am y Chwe Gwlad yw bod gan unrhyw un y gallu i faeddu unrhyw un arall ar y dydd,” meddai wedyn.

“Dyna beth rydyn ni ei eisiau. Dydyn ni ddim eisiau i Loegr – neu Ffrainc, fel y maen nhw wedi ei wneud yn y gorffennol – yn dominyddu’r gystadleuaeth. Rydyn ni eisiau gweld pethau sydd ddim yn cael eu rhagweld, timau sy’n gywir eu tactegau, a siomedigaethau.

“Roedd y fuddugoliaeth yn dipyn o siom – nid i ni, oherwydd roeddwn ni’n hyderus yn ein hunain ac fe weithiodd. Roeddwn ni’n disgwyl ennill, ond i nifer o bobol mae wedi bod yn siom.”