Benetton 57–7 Dreigiau

Mae tymor trychinebus y Dreigiau yn y Guinness Pro14 yn parhau wedi iddynt gael crasfa go iawn yn erbyn Benetton yn y Stadio Comunale di Monigo yn Treviso ddydd Sadwrn.

Sgoriodd yr Eidalwyr naw cais mewn buddugoliaeth swmpus er gwaethaf y ffaith bod gennynt werth tîm cyfan a mwy yng ngharfan Chwe Gwlad yr Eidal.

Croesodd Antonio Rizzi, Iliesa Ratuva a Luca Sperandio (2) wrth i’r tîm cartref sicrhau’r pwynt bonws yn yr hanner awr cyntaf.

Ychwanegodd Monty Ioame y pumed cyn i Will Talbot-Davies ymateb gyda chais cyntaf yr ymwelwyr.

Os roddodd hynny lygedyn o obaith i’r Dreigiau, wnaeth o ddim para wrth I Benetton ychwanegu pedwar cais arall yn yr ail hanner, un yr un i Giovanni Pettinelli a Robert Barbieri o bobtu dau i , Niccolo Cannone.

Ychwanegodd Ratuva chwe throsiad at ei gais cynnar i orffen y gêm gyda 17 pwynt, 57-7 y sgôr terfynol.

Mae’r Dreigiau yn aros yn chweched yn nhabl adran A er gwaethaf y golled ond gwahaniaeth pwyntiau yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a’r Southern Kings ar y gwaelod.

.

Benetton

Ceisiau: Antonio Rizzi 16’, Iliesa Ratuva 20’, Luca Sperandio 26’, 30’, Monty Ioane 35’, Giovanni Pettinelli 45’, Niccolo Cannone 55’, 61’, Robert Barbieri 78’

Trosiadau: Antonio Rizzi 17’, 27’, 31’, 57’, 62’, 79’

.

Dreigiau

Cais: Will Talbot-Davies 40’

Trosiad: Jason Tovey 40’