Gweilch 13–19 Munster

Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt groesawu Munster i’r Liberty yn y Guinness Pro14 nos Wener

Roedd hi’n gêm agos ond y Gwyddelod a aeth â hi yn y diwedd gyda chais hwyr Mike Haley.

Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth Munster ar y blaen gyda chais Darren Sweetman a throsiad JJ Hanrahan.

Roedd y Gweilch yn gyfartal erbyn hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais Hanno Dirksen a throsiad Luke Price, ac aeth y tîm cartref ar y blaen gyda thri phwynt arall o droed Price saith munud cyn yr egwyl.

Munster a orffennodd yr hanner gryfaf serch hynny a phan gafodd cais ei atal yn anghyfreithlon gan Sam Cross yng nghysgod y pyst, fe ddyfarnwyd cais cosb i’r ymwelwyr ac anfonwyd y blaenasgellwr cartef i’r gell gosb.

Pedwar pwynt o fantais i Munster wrth droi felly ond roedd y blwch i lawr i bwynt toc wedi’r awr diolch i gic gosb arall gan Price.

Rhoddodd cais y cefnwr, Haley, fymryn mwy o awyr iach i’r Gwyddelod ddeg munud o’r diwedd ac fe brofodd hynny’n ddigon, 13-19 y sgôr terfynol.

Pwynt bonws yn unig i’r Gweilch felly, sydd yn ddigon i’w codi i’r pedwerydd safle yn adran A ond gall y Gleision ddychwelyd drostynt wrth iddynt deithio i Gaeredin nos Sadwrn.

.

Gweilch

Cais: Hanno Dirksen 19’

Trosiad: Luke Price 19’

Ciciau Cosb: Luke Price 33’, 63’

Cerdyn Melyn: Sam Cross 37’

.

Munster

Ceisiau: Darren Sweetman 4’, Cais Cosb 37’, Mike Haley 70’

Trosiad: JJ Hanrahan 4’