Mae pryderon am ffitrwydd Dan Biggar, maswr Cymru, wedi iddo adael y cae ar ôl ugain munud o gêm Northampton yn erbyn Sale.

Roedd ei benglin wedi cael ei strapio cyn yr ornest, ond fe fu’n rhaid iddo dderbyn triniaeth.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa mor ddifrifol yw’r anaf.

Bydd Cymru’n herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf (Chwefror 23), ac mae’n debygol y byddan nhw heb y cefnwr Leigh Halfpenny hefyd, wrth iddo barhau i wella o gyfergyd.