Mae Warren Gatland yn dweud ei fod wedi dewis tîm “hynod o gyffrous” a fydd yn wynebu’r Eidal dros y penwythnos.

Yn dilyn y fuddugoliaeth 24-19 yn erbyn Ffrainc yr wythnos diwethaf, mae’r Prif Hyfforddwr wedi gwneud deg newid.

Am y tro cyntaf mi fydd y canolwr, Jonathan Davies, yn gapten ar dîm rygbi Cymru, ac mi fydd Alun Wyn Jones – y capten arferol – yn dechrau ar y fainc.

Hefyd bydd y blaenasgellwr, Thomas Young, yn chwarae i Gymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf.

Ymhlith y chwaraewyr a fu’n rhan o dîm buddugol yr wythnos diwethaf – ac sydd heb gael eu cynnwys y tro yma – mae George North a Ken Owens.

“Her wahanol”

Bydd y gêm yn cael ei gynnal Stadio Olimpico yn Rhufain ar dydd Sadwrn (Chwefror 9), ac mae Warren Gatland yn dweud bod angen i’w dîm fod yn wyliadwrus.

“Ar ôl y penwythnos nesa’ bydd yr Eidal [a gollodd yn erbyn yr Alban] mewn poen,” meddai. “Ond maen nhw’n cynnig her wahanol yn Rhufain.

“Maen nhw’n dîm â phrofiad, a byddan nhw’n anelu at fuddugoliaeth ar y cae ar ôl colli eu gêm gyntaf.”

Y tîm

Liam Williams; Jonah Holmes; Jonathan Davies (capten); Owen Watkin; Josh Adams; Dan Biggar; Aled Davies; Nicky Smith; Elliot Dee; Samson Lee; Jake Ball; Adam Beard; Aaron Wainwright; Thomas Young; Josh Navidi

Ar y fainc

Ryan Elias; Wyn Jones; Dillon Lewis; Alun Wyn Jones ; Ross Moriarty; Gareth Davies; Gareth Anscombe; Hallam Amos