Mae disgwyl i’r canolwr Jonathan Davies arwain tîm rygbi Cymru yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn (Chwefror 9).

Pe bai hyn yn wir, canolwr y Scarlets fyddai’r olwr cyntaf ers Jamie Roberts yn 2017 i arwain ei wlad, wrth i’r capten rheolaidd Alun Wyn Jones ddechrau’r gêm ar y fainc.

Bydd y tîm yn cael ei enwi’n swyddogol fory (dydd Iau, Chwefror 7) a’r disgwyl yw y bydd Thomas Young yn chwarae yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf, wrth i Warren Gatland wneud nifer o newidiadau yn ôl yr arfer ar gyfer yr ornest hon.

Daeth unig gapiau’r blaenasgellwr hyd yn hyn yn erbyn Tonga a Samoa yn 2017, ac fe allai’r asgellwr Jonah Holmes gael ei gynnwys yn y garfan wrth i Gymru fynd am fuddugoliaeth rhif unarddeg o’r bron – gan efelychu eu record – a’u trydedd fuddugoliaeth ar ddeg o’r bron yn erbyn yr Eidal.

Mae Thomas Young ymhlith y chwaraewyr sydd wedi sefyll allan yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn, ac fe allai perfformiad cryf yn Rhufain gryfhau’r posibilrwydd o gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan yn ddiweddarach eleni.