Mae Rowland Phillips, prif hyfforddwr tîm rygbi marched Cymru, yn dweud ei fod yn “falch” o’r tîm er iddyn nhw gael crasfa o 52-3 yn erbyn Ffrainc yn Montpellier ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 2).

Ildion nhw naw cais, wrth iddyn nhw orfod amddiffyn am ran fwya’r ornest yn erbyn eu gwrthwynebwyr cryf.

Ond doedden nhw ddim wedi cael y dechrau gorau i ddiwrnod yr ornest, wrth iddyn nhw orfod hedfan y bore hwnnw yn sgil oedi o ganlyniad i’r tywydd.

Y manylion

Bum munud yn unig gymerodd hi i Ffrainc groesi am y cais cyntaf drwy’r bachwr Caroline Thomas, ei chais cyntaf o dri.

Ciciodd y maswr Camille Imart gic gosb cyn i’w thîm groesi am dri chais arall cyn yr egwyl.

Daeth unig bwyntiau Cymru yn yr hanner cyntaf oddi ar droed Robyn Wilkins wrth i’r maswr gicio cic gosb.

Parhau i lifo wnaeth y pwyntiau yn yr ail hanner, wrth i’r wythwr Romane Menager groesi am ddau gais yn gynnar wedi’r egwyl. Daeth trydydd cais Caroline Thomas yn fuan wedyn.

Sgoriodd yr asgellwr Doriane Constanty o ryng-gipiad cyn i Lea Murie groesi am ei hail gais cyn y diwedd.

‘Cymeriad ac ysbryd’

“Mae bob amser yn lle anodd i fod pan ydych chi’n colli o 50 o bwyntiau,” meddai’r prif hyfforddwr Rowland Phillips. “Dyw hynny ddim yn wych.

“Ond dw i mor falch o’r ymdrech a’r ffaith nad oedden nhw wedi rhoi’r gorau iddi o’r funud gyntaf i’r funud olaf.

“Doedd rhai pethau ddim wedi cael eu gwneud yn dda, ac roedd llawer o bethau y gallen ni fod wedi’u gwneud yn well.

“Ond wnaeth cymeriad ac ysbryd y tîm fyth diflannu o’r dechrau i’r diwedd, ac mae hynny’n beth positif dros ben.”