Gleision 33–14 Lyon

Gorffennodd y Gleision eu hymgyrch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Lyon ar Barc yr Arfau brynhawn Sadawrn.

Roedd gobeithion y ddau dîm o gyrraedd yr wyth olaf ar ben cyn y gic gyntaf ond gorffennodd y Gleision grŵp 3 mewn steil gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Ffrancwyr.

Cais cosb i Lyon a oedd sgôr cyntaf y gêm ond roedd y Gleision yn gyfartal ychydig dros hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais Aled Summerhill, yr asgellwr yn croesi wedi bylchiad gwreiddiol Harri Millard.

Cyfunodd yr un chwaraewyr am ail gais y tîm cartref ddeg munud yn ddiweddarach, y canolwr yn creu i’r asgellwr unwaith eto.

Yr ymwelwyr a oedd ar y blaen ar yr egwyl serch hynny diolch i gais Xavier Mignot, Jarrod Evans yn methu a chanfod yr ystlys gyda chic amddiffynnol a Toby Arnold a Mignot yn gwrthymosod yn effeithiol, 12-14 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd y Gleision yr ail hanner ar dân gan adennill y fantais gyda chais Owen Lane wedi dwylo da Tomos Williams.

Williams ei hun a sgoriodd bedwerydd y Cymry, yn sicrhau’r pwynt bonws wedi dadlwythiad destlus Josh Navidi.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ar yr awr, Lewis Jones yn sgorio wedi cic letraws daclus Gareth Anscombe i Summerhill.

33-14 y sgôr terfynol felly a’r Gleision yn gorffen yn drydydd yng ngrŵp 3, y tu ôl i’r Saracens a Glasgow.

.

Gleision

Ceisiau: Aled Summerhill 22’, 32’, Owen Lane 43’, Williams 54’, Lewis Jones 60’

Trosiadau: Gareth Anscombe 23’, 44’, 55’, 61’

.

Lyon

Ceisiau: Cais Cosb 15’, Xavier Mignot 37’

Trosiadau: Alexis Palisson 38’