Fe fydd y cyn-chwaraewr dros Gymru, Ceri Jones, yn parhau’n brif hyfforddwr ar y Dreigiau am weddill y tymor rygbi.

Fe gafodd y cyn-brop ei enwi’n hyfforddwr dros dro ar y clwb rygbi rhanbarthol ar ôl i Bernard Jackman adael ym mis Rhagfyr.

Fe adawodd cyn-asgellwr Iwerddon ar ôl i’r Dreigiau ennill dim ond tair gêm allan o 10 yng nghystadleuaeth y Pro14 y llynedd.

Ers cymryd yr awenau, bu Ceri Jones yn gyfrifol am fuddugoliaeth y Dreigiau dros y Gweilch yn ystod cyfnod y Nadolig – y tro cyntaf iddyn nhw ennill yn erbyn clwb arall o Gymru ers pedwar tymor.

“Cefnogaeth lawn”

“Mae gan Ceri gefnogaeth lawn pawb yn y rhanbarth ac mae’n glir bod y chwaraewyr yn ymateb yn bositif i’w arweinyddiaeth trwy gyfrwng perfformiadau sy’n llawn angerdd, cymeriad a brwdfrydedd,” meddai datganiad gan y Dreigiau.

“Fe ddywedon ni cyn y Nadolig ein bod ni’n bwriadu gwneud apwyntiad parhaol cyn gynted â phosib, ond bod hefyd angen y person iawn ar gyfer y rhanbarth.

“Tra bo’r ymgais i chwilio am brif hyfforddwr parhaol yn parhau, mae ein cynnydd mewn perfformiadau ers i Ceri gymryd yr awenau wedi rhoi’r cyfle i ni gymryd ein hamser.”