Glasgow 33–24 Gleision

Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt ymweld â Scotstoun i herio Glasgow yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn Sul.

Sgoriodd y Gleision bedwar cais i sicrhau pwynt bonws ond y tîm cartref a aeth â’r gêm gan sgorio pump.

Pac Glasgow a reolodd yr hanner cyntaf a doedd fawr o syndod eu gweld yn sefydlu mantais iach gyda chais yr un i Grant Stewart a Scott Cummings.

Tarodd y Gleision yn ôl gyda cheisiau Owen Lane a Harri Millard o bobtu’r egwyl ond roedd yr Albanwyr wedi sicrhau pwynt bonws erbyn yr awr wedi i ddau hyrddiad grymus arall gan y blaenwyr arwain at geisiau i Chris Fusaro ac Oli Kebble.

Rhoddodd cais Josh Navidi ac ail i Lane obaith i’r ymwelwyr o Gymru wedi hynny a dim ond pedwar pwynt a oedd ynddi gyda phum munud i fynd.

Ond Glasgow a gafodd y gair olaf wrth i gais George Horne sicrhau eu buddugoliaeth ac amddifadu’r Gleision o ail bwynt bonws yn y broses.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn drydydd yng ngrŵp 3 gydag un gêm yn weddill.

.

Glasgow

Ceisiau: Grant Stewart 26’, Scott Cummings 32’, Chris Fusaro 49’, Oli Kebble 61’, George Horne 77’

Trosiadau: Brandon Thompson 27’, 34’, 50’, 61’

.

Gleision

Ceisiau: Owen Lane 35’, 70’, Harri Millard 57’, Josh Navidi 65’

Trosiadau: Jarrod Evans 66’, 70’