Scarlets 33–10 Caerlŷr

Enillodd y Scarlets am y tro cyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor hwn gyda buddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn Caerlŷr yng ngrŵp 4 nos Sadwrn.

Croesodd Bois y Sosban am bump cais mewn buddugoliaeth bwynt bonws ar Barc y Scarlets.

Sefydlodd y Scarlets ddeuddeg pwynt o fantais yn y deugain munud agoriadol gyda dau gais gan y blaenwyr. Dwy lein yn ardal 22 medr Caerlŷr a goruchafiaeth y pac cartref yn arwain at sgôr yr un i Rob Evans a Ken Owens.

Patrwm tebyg a oedd i’r ail hanner wrth i hyrddiad cryf arall gan y blaenwyr cartref arwain at gais arall i’r prop, Evans.

Ymunodd yr olwyr yn yr hwyl wedi hynny wrth i Johnny McNicholl orffen symudiad da i sicrhau’r pwynt bonws gyda hanner awr yn weddill.

Plymiodd Steff Evans drosodd am bumed y tîm cartref wedi hynny cyn i Evans arall, Will, sgorio cais cysur i Gaerlŷr.

Dilynodd cais cysur arall i’r ymwelwyr pan diriodd Mike Fitzgerald gyda phedwar munud yn weddill on rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi i’r Saeson.

Rhy ychydig rhy hwyr yw hi i’r Scarlets yn y grŵp hefyd wrth gwrs wedi iddynt golli eu pedair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth ond mae’r canlyniad hwn yn eu codi dros Gaerlŷr i’r trydydd safle yn y grŵp.

.

Scarlets

Ceisiau: Rob Evans 25’, 46’, Ken Owens 36’, Johnny McNicholl 49’, Steff Evans 63’

Trosiadau: Dan Jones 36’, 48, 50’, 64’

.

Caerlŷr

Ceisiau: Will Evans 66’, Mike Fitzgerald 76’

Cerdyn Melyn: Mike Williams 62’