Gweilch 18–20 Caerwrangon

Rhoddwyd cnoc i obeithion y Gweilch o gyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop wrth iddynt golli yn erbyn Caerwrangon ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd y Cymry ar y blaen am gyfnodau helaeth o’r gêm ond cipiodd yr ymwelwyr y fuddugoliaeth gyda gôl adlam funud olaf Ryan Mills.

Yr ymwelwyr a gafodd gais cyntaf y gêm wedi deg munud, y mewnwr, Johnny Arr, yn sgorio wedi rhyng-gipiad y clo, Darren Barry.

Rhyng-gipiad a arweiniodd at gais cyntaf y Gweilch bum munud yn ddiweddarach hefyd, Keelan Giles yn dwyn y meddiant ar ei linell dau ar hugain ei hunan cyn gwibio bron i hyd y cae i sgorio.

Methodd Luke Price y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb wedi hynny i roi’r Cymry bwynt ar y blaen.

Ac roedd mantais y Gweilch yn wyth pwynt erbyn yr egwyl diolch i ail gais. Olly Cracknell yn sgorio’r tro hwn wedi gwaith da George North i ennill y meddiant, 15-7 y sgôr wedi trosiad Price.

Tarodd y Saeson yn ôl gyda dau gais mewn saith munud yn hanner cyntaf yr ail hanner, Ollie Lawrence yn gwingo’i ffordd drosodd am y cyntaf cyn i Dean Hammond fanteisio ar y gwagle o ganlyniad i gerdyn melyn North i groesi am yr ail.

Dau bwynt o fantais i’r ymwelwyr felly gyda chwarter y gêm yn weddill cyn i gic gosb Sam Davies roi’r Gweilch yn ôl ar y blaen chwe munud o’r diwedd.

Ond yn ôl y daeth Caerwrangon drachefn gan ennill y gêm gyda gôl adlam Mills funus o’r diwedd.

Mae’r Gweilch yn aros yn ail yng ngrŵp 2 er gwaethaf y golled ac fe allai buddugoliaeth bwynt bonws yn Pau yr wythnos nesaf sicrhau eu lle yn yr wyth olaf o hyd.

.

Gweilch

Ceisiau: Keelan Giles 16’, Olly Cracknell 33’

Trosiad: Luke Price 34’

Ciciau Cosb: Luke Price 24’, Sam Davies 74’

.

Caerwrangon

Ceisiau: Johnny Arr 11’, Ollie Lawrence 49’, Dean Hammond 56’

Trosiadau: Scott van Breda 11’

Gôl Adlam: Ryan Mills 79’