Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod Gareth Edwards wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn gyfarwyddwr ar y clwb rhanbarthol.

Mae’r cyn-fewnwr byd enwog, a dreuliodd 12 mlynedd yn chwaraewr i Glwb Rygbi Caerdydd yn ystod yr 1960au a’r 1970au, wedi bod yn gyfarwyddwr ar gwmni Gleision Caerdydd ers 22 mlynedd.

Daw ei benderfyniad i ymddeol yn dilyn y cyhoeddiad bod cadeirydd y cwmni, Peter Thomas, hefyd yn camu o’r neilltu, er y byddai’n parhau’n gyfarwyddwr a llywydd oes.

Mae Gareth Edwards wedi cael ei olynu gan Alun Jones, a ddechreuodd ar ei swydd newydd ar Ionawr 1.

“Braint ac anrhydedd”

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd gwasanaethu fel cyfarwyddwr y cwmni am gyhyd,” meddai Gareth Edwards, sy’n 71 oed.

“Pan ymgymerodd Peter Thomas â’r gadeiryddiaeth, fe ofynnodd i mi ymuno â’r bwrdd ac roeddwn i’n hynod falch o fedru rhoi rhywbeth yn ôl i’r clwb, fel yr oedd ar y pryd, sydd wedi gwneud cymaint i mi a Gleision Caerdydd fel y mae heddiw.”

“Dydy’r cyfnod [yn gyfarwyddwr] ddim wedi bod heb ei uchelfannau na’i iselfannau, ond mae fy ymwneud wedi bod yn un llawn hwyl ac fe fydda i, yn sicr, yn parhau’n gefnogwr yn standiau Parc yr Arfau wrth i’r rhanbarth droedio i gyfnod newydd.”