Clermont Auvergne 49–24 Dreigiau

Mae’r Dreigiau allan o Gwpan Her Ewrop ar ôl colli yn erbyn Clermont yn y Stade Marcel Michelin brynhawn Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am saith cais mewn buddugoliaeth swmpus yn erbyn y Cymry.

Sicrhaodd y Ffrancwyr y pwynt bonws yn yr hanner cyntaf diolch i geisiau Judicael Cancoriet (2), Apisai Naqalevu a Peter Betham.

Ond roedd y Dreigiau o fewn cyrraedd ar yr egwyl serch hynny diolch i geisiau Elliot Dee ac Aaron Wainwright, a saith pwynt o droed Josh Lewis, 28-17 y sgôr wrth droi.

Yn wir, un pwynt ar ddeg a oedd y bwlch ddeg munud o’r diwedd hefyd wedi i Fritz Lee a Rhodri Williams gyfnewid cais yr un.

Nid oedd y canlyniad o dan unrhyw amheuaeth serch hynny ac fe roddwyd gwedd fwy cyfforddus ar y sgôr terfynol gyda dau gais arall i Clermont yn y munudau olaf, ail i Naqalevui ddechau ac yna un i Charlie Cassang. 49-24 y sgôr terfynol.

.

Clermont Auvergne

Ceisiau: Judicael Cancoriet 5’, 33’, Apisai Naqalevu 19’, 70’, Peter Betham 28’, Fritz Lee 46’, Charlie Cassang 76’

Trosiadau: Greig Laidlaw 6’, 20’, 29’, 34’, 47’, 70’, 78’

.

Dreigiau

Ceisiau: Elliot Dee 25’, Aaron Wainwright 39’, Rhodri Williams 66’

Trosiadau: Josh Lewis 25’, 40’, 68’

Ciciau Cosb: Josh Lewis 14’