Gleision 14–26 Saracens

Mae’r Gleision allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl colli gartref yn erbyn Saracens yng ngrŵp 3 brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl ar Barc yr Arfau ond yn ôl y daeth y ymwelwyr i ennill y gêm yn yr ail hanner er gwaethaf ymdrech ddewr y Cymry.

Hanner Cyntaf

Yr ymwelwyr o Lundain a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen wedi deg munud diolch i gais Sean Maitland, yr asgellwr yn gorffen yn dda er gwaethaf meddiant digon blêr.

Llwyddodd Owen Farrell gyda’r trosiad cyn ymestyn y fantais i ddeg pwynt gyda chic gosb.

Cafwyd ymateb da gan y Gleision yn ail hanner yr hanner cyntaf gan ddechrau gyda chais Rey Lee-Lo, y canolwr yn rhedeg ongl dda i groesi wedi sgrym bump gref gan y blaenwyr.

Rhoddodd trosiad Gareth Anscombe y tîm cartref o fewn tri phwynt, ac er i Farrell ymateb gyda chic gosb i’r ymwelwyr, y Gleision a oedd ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i ail gais.

A chais da oedd o hefyd, cic ddeallus Anscombe yn canfod Garyn Smith ar yr asgell ac yntau’n rhyddhau Dan Fish i groesi am chwip o sgôr, 14-13 wedi trosiad Anscombe.

Ail Hanner

Roedd hi’n gêm lai agored wedi’r egwyl ac fe sleifiodd y Saracens yn ôl ar y blaen gyda thri phwynt o droed Farrell wedi chwarter awr.

Cafodd y Gleision gyfnod da wedi hynny gan orfodi’r ymwelwyr i amddiffyn am gyfnod hir yn eu dau ar hugain eu hunain.

Arweiniodd yr ymdrech amddiffynnol honno at gerdyn melyn i Will Skelton ond llwyddodd y Saracens i reoli’r gêm heb ildio yn eu deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg.

Yn wir, ciciodd Farrell gic gosb arall i ymestyn mantais y Saeson i bum pwynt gyda chwe munud yn weddill.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel wedi cais dadleuod Jamie George dri munud o’r diwedd. Roedd hi’n ymddangos fod Olly Robinson wedi gwneud digon i atal bachwr y Llewod rhag tirio ond nid felly y gwelodd y dyfarnwr fideo bethau. Cafodd y cais ei ganiatáu a throsodd Farrell i ymestyn y fantais i ddeuddeg pwynt, 14-26 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn drydydd yng ngrŵp 3 ac allan o’r gystadleuaeth.

.

Gleision

Ceisiau: Rey Lee-Lo 23’, Dan Fish 37’

Trosiadau: Gareth Anscombe 25’, 39’

.

Saracens

Ceisiau: Sean Maitland 9’, Jamie George 77’

Trosiadau: Owen Farrell 10’, 77’

Ciciau Cosb: Owen Farrell 17’, 33’, 74’

Cerdyn Melyn: Will Skelton 63’