Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau yn chwilio am brif hyfforddwr newydd ar ôl diswyddo’r Gwyddel, Bernard Jackman.

Dydyn nhw ddim ond wedi ennill pedair gêm allan o 13 y tymor hwn – tair gêm yn y PRO14 ac un yng Nghwpan Her Ewrop

Bydd hyfforddwr y blaenwyr, Ceri Jones yn gyfrifol am y tîm ar gyfer eu gêm Ewropeaidd oddi cartref yn erbyn Clermont Auvergene dros y penwythnos.

Roedd e wrth y llyw ers mis Mehefin y llynedd, pan gymerodd Undeb Rygbi Cymru reolaeth o’r rhanbarth ac roedd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ymhlith y rhai oedd yn allweddol yn ei benodiad.

‘Diolch’

“Hoffwn nodi ein diolch i Bernard Jackman am ei ymroddiad a’i waith caled yn ei rôl fel prif hyfforddwr,” meddai David Buttress, cadeirydd y Dreigiau.

“Er y bu hwn yn benderfyniad anodd, rydym yn credu ei fod yn rhoi’r cyfle gorau i ni greu llwyddiant ar y cae yn y dyfodol.”

Roedd Bernard Jackman hanner ffordd drwy gytundeb tair blynedd.

“Hoffwn ddiolch i Undeb Rygbi Cymru a’r bwrdd am y cyfle yn y Dreigiau, ac rwy’n credu bod dyfodol disglair i’r rhanbarth.”