Mae’n well gan Gleision Caerdydd beidio â bod yn ffefrynnau ar gyfer y gêm yn erbyn y Saraseniaid yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yfory (dydd Sul, Rhagfyr 8, 1yp), meddai’r maswr Gareth Anscombe.

Bydd y Cymry’n teithio i Barc Allianz i herio tîm sydd heb golli mewn 14 o gemau ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

Ond bydd y Saeson heb y chwaraewyr rhyngwladol Maro Itoje, George Kruis a Billy Vunipola.

“Mae’n her fawr i ni fel tîm a bydd rhaid i ni fod ar ein cryfaf,” meddai Gareth Anscombe.

“Ry’n ni’n gwybod nad ni yw’r ffefrynnau, ac mae hynny’n iawn gennym ni.

“Gallwn ni eistedd yma a siarad drwy’r dydd am ba mor dda yw’r Saraseniaid – yn ddi-guro, yn dîm sy’n llawn chwaraewyr rhyngwladol Lloegr a phump neu chwech o Lewod – ond ar ddiwedd y dydd, maen nhw’n bymtheg dyn a chanddyn nhw ddwy fraich a dwy goes, ac maen nhw’n cael eu diwrnodau gwael hefyd.”

Wrth i Gareth Anscombe ddechrau yn safle’r maswr, bydd Jarrod Evans yn symud i’r canol. Ond byddan nhw heb y mewnwr Tomos Williams a’r blaenasgellwr Ellis Jenkins.