Roedd canlyniad y Scarlets yn erbyn Ulster neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 7) yn “annerbyniol”, yn ôl eu prif hyfforddwr, Wayne Pivac.

Collodd y Cymry o 25-24 ym Mharc y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Heineken, canlyniad a allai beryglu eu dyfodol yn y gystadleuaeth y tymor hwn.

Maen nhw bellach wedi colli tair gêm Ewropeaidd o’r bron.

“Roedd diffyg cywirdeb amddiffynnol gyda ni yn yr hanner cyntaf, yn enwedig, a gyda’r cais sgorion nhw o 60 metr, fe gwympon ni oddi ar nifer o daclau un-i-un, sy’n annerbyniol ar y lefel yma,” meddai Wayne Pivac, prif hyfforddwr nesaf tîm Cymru.

“Chwaraeon nhw yn dda iawn, ond doedden ni ddim yn gywir iawn yn amddiffynnol ar sawl achlysur, ac fe dalon ni’r pris am hynny.

“Yn yr un modd o ran ymosod, doedden ni ddim yn ddigon clinigol.

“I ni, y peth pwysig yw gwella ar y perfformiad hwnnw a pharhau i adeiladu a sicrhau ein bod ni’n adennill y cywirdeb yn ein gêm, a chosbi timau wrth i ni dorri’n rhydd.”

‘Dial’

Yn dilyn y fuddugoliaeth i’w dîm, dywedodd Dwayne Peel, cyn-fewnwr y Scarlets sy’n aelod o dîm hyfforddi Ulster, ei fod yn disgwyl i’r Scarlets geisio dial ar y Gwyddelod yr wythnos nesaf.

“Fe wnaethon ni baratoi’n dda, ac roedden ni’n sylweddoli ei bod yn gêm enfawr i ni,” meddai.

“Mae gan y Scarlets record dda gartref, felly roedd hi’n her enfawr i ni.

“Ar yr adeg yma yn Ewrop, mae’r gwaith wedi’i hanner orffen. Ry’n ni wrth ein boddau gyda’r fuddugoliaeth, ond ry’n ni’n gwybod y bydd ymgais i ddial yn ein lle ni’r wythnos nesaf.”